Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn llywodraethu dy ddefnydd o’n Knocdic.com (y "Wefan") a dy bryniant o gynhyrchion gennym ni. Drwy gael mynediad at ein Gwefan neu ei defnyddio, rwyt ti’n cytuno i gael dy rwymo gan y telerau hyn. Os nad wyt ti’n cytuno, paid â defnyddio ein Gwefan.
1. Amdanom Ni
Mae Tella Studio Limited yn gwmni wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 13661016. Gelli di gysylltu â ni yn knock@knocdic.com.
2. Archebu a Chontract
- Drwy osod archeb ar ein Gwefan, rwyt ti’n gwneud cynnig i brynu nwyddau. Dim ond pan fyddwn ni’n derbyn dy archeb ac yn anfon e-bost cadarnhau atat ti y caiff contract ei ffurfio.
- Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod neu ganslo unrhyw archeb yn ôl ein disgresiwn, gan gynnwys oherwydd gwallau prisio neu stoc ddim ar gael.
- Mae pob pris mewn GBP ac yn cynnwys TAW lle bo’n berthnasol. Efallai y bydd taliadau danfon yn berthnasol a byddant yn cael eu dangos wrth y til.
3. Talu
- Rhaid talu wrth archebu drwy Shopify, cerdyn Credyd/Debyd neu PayPal.
- Rydyn ni’n defnyddio prosesu taliadau diogel, ond dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw broblemau a achosir gan ddarparwyr taliadau trydydd parti.
4. Danfon
- Rydyn ni’n anelu at anfon archebion o fewn 1-3 diwrnod gwaith, ac yna mae danfon yn y DU yn cymryd 2-4 diwrnod gwaith. Amcangyfrifon yw amseroedd danfon a gallant amrywio.
- Mae’r risg o golli neu ddifrodi’r nwyddau’n trosglwyddo i ti wrth eu danfon.
- Os nad wyt ti ar gael i dderbyn y danfoniad, efallai y byddwn ni’n ei adael mewn lle diogel neu’n trefnu ei ailddanfon ar dy gost di.
5. Dychwelyd ac Ad-daliadau
- 5.1 Newid meddwl. O dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr 2013, gelli di ganslo dy archeb o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod y byddi di’n derbyn dy nwyddau. I ganslo, anfona e-bost i knock@knocdic.com o fewn y cyfnod hwnnw, a byddwn ni’n anfon ein cyfeiriad dychwelyd atat ti. Yna dychwela’r nwyddau o fewn 14 diwrnod i ddweud wrthym ni. Dylai’r nwyddau fod heb eu defnyddio ac yn eu cyflwr a’u pecynnu gwreiddiol. Ti sy’n talu cost eu dychwelyd.
- 5.2 Byddwn ni’n rhoi ad-daliad i ti o fewn 14 diwrnod i dderbyn y nwyddau’n ôl, gan gynnwys y tâl danfon safonol gwreiddiol, drwy dy ddull talu gwreiddiol. Os wyt ti’n dychwelyd rhan o fwndel yn unig, caiff dy ad-daliad ei ailgyfrifo yn Shopify yn seiliedig ar y prisiau a dalwyd wrth y til. Efallai y byddwn ni’n lleihau’r ad-daliad os yw’r nwyddau wedi’u trin yn fwy nag sydd ei angen i’w harchwilio.
- 5.3 Eitemau personol. Dydy’r hawl i ganslo ddim yn berthnasol i nwyddau a wnaed i dy fanylebau neu sydd wedi’u personoli’n amlwg, fel eitemau gyda Custom Text. Dydy dewis un o’n lliwiau neu feintiau safonol ddim yn gwneud eitem yn bersonol.
- 5.4 Eitemau diffygiol, wedi’u difrodi neu anghywir. O dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015, os yw nwyddau’n ddiffygiol, wedi’u difrodi, ddim fel y’u disgrifiwyd neu ddim yr hyn a archebaist, cysyllta â ni yn knock@knocdic.com. O fewn 30 diwrnod i’r danfon, mae gen ti hawl i ad-daliad llawn, neu gallwn ni anfon eitem newydd os yw’n well gen ti. Ar ôl 30 diwrnod, byddwn ni’n trwsio neu’n newid yr eitem, ac os nad yw hynny’n bosibl neu os nad yw’n datrys y broblem, byddwn ni’n rhoi ad-daliad. Rydyn ni’n talu’r post dychwelyd ar gyfer eitemau diffygiol neu anghywir ac yn ad-dalu’r tâl danfon gwreiddiol.
- 5.5 Does dim byd yn y telerau hyn yn effeithio ar dy hawliau statudol.
6. Dy Rwymedigaethau
- Rhaid i ti roi gwybodaeth gywir wrth archebu.
- Rwyt ti’n cytuno i beidio â defnyddio ein Gwefan at unrhyw ddiben anghyfreithlon nac mewn ffordd a allai niweidio ein systemau neu ein henw da.
7. Ein Hatebolrwydd
- Dydyn ni ddim yn atebol am unrhyw golledion anuniongyrchol neu ganlyniadol sy’n deillio o dy ddefnydd o’n Gwefan neu ein cynhyrchion.
- Does dim yn y telerau hyn yn eithrio ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod, twyll neu unrhyw fater na ellir ei gyfyngu o dan gyfraith y DU.
- Mae nwyddau’n cael eu darparu at ddefnydd personol yn unig, a dydyn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golledion busnes.
8. Eiddo Deallusol
- Mae’r holl gynnwys ar ein Gwefan (e.e. testun, delweddau, logos) yn eiddo i ni neu ein trwyddedwyr ac wedi’i ddiogelu gan hawlfraint. Chei di ddim ei atgynhyrchu na’i ddefnyddio heb ein caniatâd.
9. Preifatrwydd
- Rydyn ni’n prosesu dy ddata personol yn unol â’n Polisi Preifatrwydd a chyfreithiau diogelu data’r DU.
10. Newidiadau i’r Telerau Hyn
- Efallai y byddwn ni’n diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Y fersiwn sydd mewn grym ar adeg dy archeb sy’n berthnasol.
11. Cyfraith Lywodraethol
- Mae’r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau’n ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
12. Cysylltu â Ni
- Am gwestiynau neu gwynion, cysyllta â ni yn knock@knocdic.com
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mawrth 2025